Hanes bywyd a gwaith Alan Turing yw To Kill A Machine. Wedi ei ddatblygu yn wreiddiol fel rhan o brosiect Spread the Word Sherman Cymru fe'i perfformiwyd yn gyntaf fel darlleniad yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberytwyth in 2012 gan gyfarwyddid Gilly Adams. Roedd y cast yn cynnwys Richard Hull, Rhodri Brady, Jak Poore, Robert Harper a Heledd Baskerville. Yna penderfynodd Scriptography Productions gynhyrchu'r sioe, a pherfformiwyd fersiwn peilot yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth Sherman Cymru a Phrifysgol Abertawe yn 2012, dan gyfarwyddid Angharad Lee. Fe'i perfformiwyd gan Gwydion Rhys, Stephen Marzella, Tom Middler, Gareth John Bale a Ceri Owain Murphy.
Fe'i perfformiwyd hefyd fel rhan Berfformiadau Picnic Theatr Clwyd yn 2013. Derbyniodd grant teithio a grant Cymru yng Nghaeredin gan Gyngor y Celfyddydau a theithiodd Gymru a Llundain yn 2015, cyn ymddangos yn yr Edinburgh Festival Fringe lle cafodd ei enwebu am wobr rhyddid mynegiant gan Amnest Rhyngwladol. Derbyniodd enwebiadau pellach yng Ngwobrau Theatr Cymru 2016 lle enillodd To Kill a Machine bedwar enwebiad - ar gyfer y dramodydd gorau, actor gorau, cyfarwyddwr gorau a'r cynhyrchiad Gorau. Yn y cast oedd Gwydion Rhys, Robert Harper, Rick Yale a François Pandolfo.
Y mae To Kill A Machine yn ymddangos yn Theatr y Kings Head yn Llundain ym mis Ebrill 2016, ac yna mae'n trosglwyddo i Ddulyn ar gyfer yr International Gay Theatre Festival cyn mynd ar daith eto yn 2016.
Ceir mwy o wybodaeth ar wefan To Kill a Machine, ac ar y dudalen Facebook (isod).
Cyfweliadau
Adolygiadau
- The Edinburgh Evening News ★ ★ ★ ★ ★ ★
- The Western Mail ★ ★ ★ ★ ★
- Wow 24/7 ★ ★ ★ ☆ ☆
- BroadwayBaby ★ ★ ★ ★ ☆
- The Edinburgh Guide ★ ★ ★ ★ ★
- Edinburgh Festival List ★ ★ ★ ☆ ☆
- New Welsh Review
- Wales Arts Review
- Arts Scene in Wales