Gweithau Byrrach

Return to Albion

Return to Albion oedd fy ymgais gyntaf ar ysgrifennu dramau, fel rhan o sioe ddyfeisiedig gan Theatr Cymunedol Castaway. A themau ganolog oedd gorsaf reilffordd dros 150 o flynyddoedd. Y mae'r orsaf-feistres, Cyril Happenstall, rhan a ysgirfennais ac a berfformiais) yn gweld yr holl fyd er iddi aros yn ei hunfan. Roedd Cyril yn berson na sylweddolodd ei thad erioed ei bod yn ferch, ac felly mae'n derbyn cyfleoedd na fyddai wedi bod yn bosib i ferch.

Now That's What I Call Ubu

Wedi perfformio tair drama Ubu y dramodydd Alfred Jarry dros gyfnod o 4 mlynedd, cymysgedd o'r dair sioe oedd sioe Theatr Cymunedol Castaway yn 2009, ac fe gefais i'r cyfle i ysgrifennu stori fframwaith. Crynswth y stori oedd bod Resipsa Loquitur, sef llywodraeth amheus a oedd yn cynnwys y Managing Executive, Yr Esteemed Leader, Y Chief Burgher, T Premier Counsellor a'r First Minister, wedi creu Ubu a Ma Ubu fel diddanwch er mwyn twyllo'r Bobl fel y gallai'r Resipsa Loquitur gwneud fel a fynnai heb sialens. Datblygwyd menter arall o'r enw Look at My Stool - system a ganiatai i bobol roi allweddi i'w cyfeillion a'u teuluoedd fel y gallent hwythau edmygu cynhwysion diweddaraf eu ty bach. Pwrpas cudd Look at My Stool fodd bynnag oedd i alluogi Resipsa Loquitur i dderbyn gwybodaeth bersonol nad oedd pobol yn fodlon datgelu i'r Resipsa Loquitur ac i adnabod cysylltiadau rhwng pobl. Perfformiwyd Now That's What I Call Ubu yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ym mis Mai 2009.

Don't Put Your Sea Monster on the Stage

Cynhyrchiad cyntaf grwp ysgrifennu llwyfan Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth oedd hwn, sef dramau byrion ar thema Beginnings. Y mae A and B yn ceisio ysgrifennu drama. Y mae A yn benderfynol o ysgrifennu drama bwysig a seriws, ond mae ei gyfaill B yn awyddus iawn y dylai pob drama gynnwys bwystfil y mor.

The Town with no Traffic Wardens

Prosiect cydweithredol oedd hwn gan grwp Ysgrifennu Llwyfan Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Eto mae'r themau fod pethau yn groes i'r hyn maent yn ymddangos i fod yn gryf ac fe ddaw'n amlwg mai dim ond y caead ar gyfer adeilad llawer aiawn mwy yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

The Rock

Rhan o brosiect gan Scriptography Productions o'r enw Playpen oedd The Rock - dwy noson o berfformiadau, gyda'r darnau gorau o'r ddwy noson yn cael eu datblygu ymhellach. Ymdriniai fy nrama fer i, The Rock, a broga blin sydd yn siomedig i ganfod fod sboncyn gwair ar fin symud i mewn y drws nesaf, gan ymyrryd a bywyd distaw Broga. Fodd bynnag, pan daw'r ffordd fawr, sylweddola Broga a Sboncyn bod angen iddyn nhw gydweithio er mwyn achub ei cartref. Yn ffodus, mae casgliad Sboncyn o hen anialwch yn achub y ddau.

The Shakespeare Show

Stori fframwaith yw hwn ar gyfer sioe Theatr Gymunedol Castaway yn 2011: refiw o sgetsys am Shakespeare. Fe rol i oedd i greu ffrwd o sinigiaeth ar gyfer y sioe, a daw hyn ar ffurf Puck, sydd yn gweld byd y theatr yn cael ei ddifa an yr hunan-gyfiawn. Daw Puck yn gynyddol flin i weld dramau yn cael eu dinistro gan hunan-fuddiannau.

The Constant Hunger of the Troll Under the Bridge

Prosiect dramau clyweledol oedd hwn, ac mae eto yn treiddio i mewn i'm diddordeb yng nghymeriadau tylwyth teg Shakespeare. Yma mae Ariel yn derbyn y dasg o addysgu dau efaill hunanol sydd heb unrhyw wreiddioldeb yn perthyn iddynt. Dwy ddefnydd hud a lledrith mae Ariel yn dangos yr holl fyd iddynt, ond does gan yr efeilliaid ddim diddordeb, ac fe gaiff Ariel ei chosbi.

Last Night at the London Palladium

Ysgrifennwyd Last Night at the London Palladium ar gyfer prosiect Play in a Bag Theatr Dirty Protest ac fe'i perfformiwyd gan Sharon Morgan yn Dirty Gifted and Welsh Dirty Protest a National Theatre Wales yn 2014. Woman Unnamed yw'r holl bobol rydych chi wedi weld ar y teledu ond heb sylwi arnyn nhw - y cystadleuwyr mewn sioe gwis, y person yn y gynulleidfa, y gwirfoddolwr mewn sioe consuriwr. Dyw neb yn ei gweld a dim ond pan mae hi'n mynd ar y llwyfan mewn theatr - theatr ysbyty, pan daw hi'n rhywbeth nad yw hi, y caiff hi sylw.

Nosweithiau Sgratsh Crash Test

Rwyf hefyd wedi cymryd than mewn sawl noson sgratsh er mwyn arddangos gwaith newydd, ac mae nosweithiau yng Nhghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Theatr The Other Room Theatre. Y mae darnau rwyf wedi ddatblygu ohyn yn cynnwys Going Back to Ellen Street, Screw, a Don't Say Nowt, sef drama gyfochrog ar gyfer To Kill a Machine, sydd yn adrodd yr un stori o berspectif Arnold Murray, sef un o gariadon Alan Turing.

Response Time

Prosiect Scriptography Productions yw hwn lle mae perfformiad yn ymateb i gelf. O fewn 48 awr mae perfformwyr o bob math yn creu ymatebion i waith celf a galeriau. Y mae hwn wedi bod yn ysgogiad pwysig ar gyfer gwaith newydd ac mae Replay Me yn oriel Nwy Aberystwyth, Cassandra's Rant gan Shani Rhys James yn Amgueddfa Ceredigion Museum a Black Smoke Rising gan Tim Shaw yng Nhghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth i gyd wedi'm hysgogi i greu gweithiau newydd, ac mae cydblethu ieithyddol yn themau sydd yn esblygu yn fy ngwaith. Yr oedd Johnny Rollerskate yn gymeriad o le arall sydd yn gweld ein cymdeithas o safbwynt estron. Cyfieithiad yw ei Saesneg o'i iaith ei hunan, ac fe ymgeisia i ddadansoddi ymddygiad er mwyn ffitio i mewn. Ei dristwch fodd bynnaf yw ei fod yn sefyll allan oherwydd nad yw'n gweld cymdeithas fel y gwela cymdeithas ei hunan. Drama fer oedd Crwban am berson sydd yn colli geiriau ac sydd yn ceisio ei gorau i sicrhau fod eraill yn ei deall.