Dramodydd

Dwi wedi bod yn hoff o hyd y theatr ers pan oeddwn i yn fychan. Arth fy rhieni ar wyliau i Stratford Upon Avon pan oeddwn i tua tair oed, ac roeddwn i yn genfigenus iawn eu bod yn mynd ar wyliau hebdda i. Erfynnais i gael mynd efo nhw. Fe egluron nhw na fyddwn i yn deall, ac y cawn i fynd pan oeddwn i yn hŷn. "Pryd?" "Pan wyt ti'n wyth" medda nhw. Fe fynnais eu bod yn cadw eu haddewid, ac fe gefais fynd (er gwaethaf amheuon fy rhieni y byddwn i yn deall unrhyw beth am Shakespeare, er bod mam wedi creu fersiwn plant o'r stori ar fy nghyfer) i weld cynhyrchiad y Royal Shakespeare Company o A Midsummer Night's Dream yn 1986. Wedi hynny, byddai criw o'm ffrindiau yn yr ysgol gynradd yn perfformio 'actiau' - byddem yn cymryd drosodd y neuadd am y prynhawn a pherfformio dramau, ar gyfer y dosbarth yn wreiddiol ac yn raddol ar gyfer mwy a mwy o 250 disgybl yr ysgol. Rwyf hefyd yn cofio creu sioeau Nadolig ar gyfer fy rhieni, gyda thedi bers mewn gwisgoedd yn gorfod dysgu sgriptiau.

Fel oedolyn fodd bynnag, cefais gyfle i ail-gydied yn y brwdfrydedd hwn, pan benderfynodd y diweddar David Blumfield (1962-2015), cyfarwyddwr Cwmni Theatr Cymunedol Castaway yng Nghyanolfan y Celfyddydau Aberystwyth greu sioe wedi ei dyfeisio gan y cwmni ar gyfer sioe haf 2008. Enw'r sioe oedd Return to Albion. Roedd sawl person wedi synnu nad oeddwn i wedi ysgrifennu dim byd cyn hynny, ac fe'm hannogwyd i ysgrifennu o ddifrif. Dilynais gwrs ysgrifennu creadigol yn y Brifysgol Agored a daeth cyfleoedd pellach ar gyfer ysgrifennu pann ofynnwyd i mi ysgrifennu stori fframwaith ar gyfer sioe arall gan Theatr Gymunedol Castaway, sef Now That's What I Call Ubu. Tua'r un adeg, sefydlodd yr awdur a'r cynhyrchydd Sandra Bendelow grwp ysgrifennu llwyfan yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, a phenderfynais fynychu. Roedd hyn yn drobwynt o ran ysgrifennu ac fe ddechreuais ystyried fy hun fel dramodydd.

Sioe gyntaf y grwp oedd Beginnings, ac ysgrifennais ddrama fer o'r enw Don't Put Your Sea Monster on the Stage. Wedi hynny, cynhaliodd Sherman Cymru ei brosiect Spread the Word, a chefais fy newis i gymryd rhan. O hyn yr esblygodd To Kill A Machine ac fe'i perfformiwyd fel darlleniad ym Mis Mawrth 2012. Wedi hynny, mae'r sioe wedi mynd o nerth i nerth, gan iddo gael ei gynhyrchu fel perfformiad peilot yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Sherman Cymru a Phrifysgol Abertawe yn 2012. Fe'i perfformiwyd hefyd fel rhan o berfformiadau picnic Theatr Clwyd yn 2013. Derbyniodd grant teithio a grant Cymru yng Nghaeredin gan Gyngor y Celfyddydau ac fe aeth ar daith ledled Cymru ac i Lundain yn 2015, cyn performiadau yn yr Edinburgh Festival Fringe lle'i henwebwyd am wobr rhyddid mynegiant gan Amnest Rhyngwladol. Daeth enwebiadau pellach yng Ngwobrau Theatr Cymru 2016 lle'i henwebwyd am bedwar gwobr - Dramodydd Gorau, Actor Gorau, Cyfarwyddwr Gorau a Chynhyrchiad Gorau. Y mae To Kill A Machine yn ymddangos yn Theatr y Kings Head ym mis Ebrill 2016, gydag ymddangosiadau wedi hynny yn yr International Gay Theatre Festival yn Nulyn ac ar daith o'r Deyrnas Unedig yn 2016.

Yn y cyfamser, rwyf wedi ysgrifennu dramau eraill ar gyfer Theatr Gymunedol Castaway (gan gynnwys The Shakespeare Show yn 2011, lle unwaith eto cefais y cyfle i ysgrifennu a pherfformio'r stori ffrwmaith, lle mae Puck yn gwrthwynebu i gamdriniaeth drama yn nwylo'r twp a'r hunan cyfiawn, a fy sioe lawn gyntaf ar gyfer cast mawr, sef Rain of Blood. Ysgirfennais hefyd The Rock a rhannau o'r prosiect cyd-weithredol, The Town With No Traffic Wardens ar gyfer grwp ysgrifennu llwyfan Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, a, The Constant Hunger of the Troll Under the Bridge ar gyfer proeisct Earcandy Scriptography Productions. Fe'm dewiswyd i gymryd rhan ym mhrosiect Gair ar Led Sherman Cymru yn 2012, Dirty Aberystwyth gan Dirty Protest yn 2015 a Dirty Gifted and Welsh ar gyfer Dirty Protest/National Theatre Wales yn 2014.